Cyflwyniad

1.     Rydym yn cynnig system bwyllgorau a fydd yn craffu ar Lywodraeth Cymru mewn modd cadarn, yn deddfu’n effeithiol, ac yn sicrhau defnydd effeithlon o amser yr Aelodau. Mae'n gynnig sy’n seiliedig ar yr hyn a gafodd ei ddysgu a’i gasglu o Seneddau blaenorol.

2.    Mae'r pwyllgorau rydym yn eu cynnig yn rhoi sylw i’r holl feysydd polisi a chymhwysedd deddfwriaethol y mae Gweinidogion Cymru, a'r Senedd, yn gyfrifol amdanynt. Yr her sy'n ein hwynebu, fel deddfwrfa fach, yw sicrhau'r sylw hwn, heb orlwytho Aelodau o'r Senedd â gwaith pwyllgor nes ei fod yn effeithio ar eu gallu i gyflawni'r ystod lawn o swyddogaethau sydd eu hangen i gynrychioli pobl Cymru yn effeithiol.

3.    Yn ganolog i'n trafodaethau y bu'r nod i sicrhau nad oes rhaid i Aelod o'r Senedd eistedd ar fwy na dau bwyllgor.

4.    Mae hyn wedi llywio ein penderfyniadau ar nifer y pwyllgorau a'u maint.

5.    Rydym yn parhau i fod yn ymwybodol o’r angen i gynnal ystwythder a hyblygrwydd digonol i ymateb i heriau annisgwyl a allai ddod i'r amlwg yn ystod y Senedd hon. Byddwn yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy ein dull amserlennu a thrwy ymrwymo i barhau i adolygu strwythur y pwyllgorau.

6.    Er mwyn darparu system bwyllgorau o fewn y ffiniau hyn, rydym yn cynnig parhau â saith pwyllgor polisi a deddfwriaeth swyddogaeth ddeuol, ochr yn ochr â nifer o bwyllgorau arbenigol.

7.    Yn gyffredinol, dyma'r model sydd wedi gweithredu yn y Senedd ers degawd ac mae’n fodel sydd wedi'i fireinio drosodd a thro yn ystod y cyfnod hwnnw.

8.    Rydym o’r farn bod y strwythur rydym yn ei gynnig ar gyfer y Chweched Senedd yn ddilyniant o'r model hwn.

9.    I grynhoi, mae'n cynnig y pwyllgorau a ganlyn:

§    Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

§    Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

§    Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

§    Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

§    Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

§    Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

§    Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

§    Y Pwyllgor Cyllid

§    Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

§    Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

§    Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

§    Y Pwyllgor Deisebau

10.  Darperir yr holl bwyllgorau a'u cylchoedd gwaith yn Atodiad A.

Ehangder y cylchoedd gwaith

11.   Fel yn ystod y Bumed Senedd, mae'n bwysig deall nad yw cylchoedd gwaith y pwyllgorau polisi a deddfwriaeth wedi'u rhagnodi na'u cyfyngu. Rydym yn fwriadol wedi caniatáu iddynt aros yn eang a phenderfynwyd peidio â darparu rhestr o bynciau ynghlwm wrth bob pwyllgor. Fel yn y ddwy Senedd flaenorol, rydym yn credu bod modd sicrhau gwaith craffu gwell ac osgoi'r perygl bod dull gweithredu’n rhy gul drwy roi'r gallu i bwyllgorau fynd ar drywydd materion ar draws portffolios a meysydd pwnc.

12.  Rydym yn disgwyl i Gadeiryddion a'u clercod gyfathrebu â'i gilydd er mwyn sicrhau bod rhaglenni gwaith yn cyd-fynd â'i gilydd. Os bydd anghydfod, er bod hynny'n annhebygol, gall y Pwyllgor Busnes ei ddatrys drwy arfer Rheol Sefydlog 17.2 neu, os oes angen, Reol Sefydlog 16.3.

Swyddogaethau newydd neu wedi'u newid

Gweinyddiaeth gyhoeddus

13.  Yn strwythur cyffredinol y pwyllgorau, mae angen sicrhau y gwneir gwaith craffu gweinyddol ochr yn ochrâ gwaith craffu ariannol a deddfwriaethol.

14.  Er mwyn helpu i sicrhau hyn, rydym wedi ychwanegu'r cyfrifoldeb am graffu ar weinyddiaeth gyhoeddus – “peirianwaith y llywodraeth” – at gylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

15.  Dylai hyn sicrhau y caiff digon o sylw ei ddwyn i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn trefnu ei hun i lywodraethu a darparu gwasanaethau i bobl Cymru.

Materion allanol

16.  Yn y Bumed Senedd, sefydlwyd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol (“y Pwyllgor MADY”) i ymateb i'r materion lluosog sy'n codi o broses ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

17.  Erbyn diwedd y Bumed Senedd, roedd yn cyflawni nifer o swyddogaethau arwyddocaol, gan gynnwys goruchwylio'n ganolog y gwaith o graffu ar y Rhaglen Fframweithiau Cyffredin ar draws y DU, marchnad fewnol y DU, a chytundebau rhyngwladol (gan gynnwys y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE).

18.  Hefyd, roedd gan y Pwyllgor MADY rôl bwysig wrth ddatblygu perthnasoedd rhyng-seneddol ar draws y DU, yn Ewrop, a’r tu hwnt, i sicrhau bod safbwyntiau’r Senedd yn cyrraedd y mannau y tu allan i Gymru lle roedd angen eu clywed.

19.  Nid ydym wedi cynnig sefydlu pwyllgor cyfatebol. Yn hytrach, rydym wedi cynnig cynnwys y swyddogaethau a gyflawnwyd gan y pwyllgor hwn yng nghylchoedd gwaith nifer o bwyllgorau gwahanol.

20.Rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiad ar wahân sy'n ymateb i'r argymhellion gwaddol a wnaeth pwyllgorau’r Bumed Senedd sy'n ymwneud â sefydlu pwyllgorau, gan gynnwys y rhai a wnaeth y Pwyllgor MADY.

Atodiad A: Cylchoedd gorchwyl y pwyllgorau

Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cylch gorchwyl:Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): addysg, iechyd a lles plant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys eu gofal cymdeithasol.

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cylch gorchwyl:Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Cylch gorchwyl:Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd; adfywio; sgiliau; masnach; gwaith ymchwil a datblygu (gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth); a materion gwledig.

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Cylch gorchwyl:

-        Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): llywodraeth leol, cymunedau a thai.


 

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cylch gorchwyl:

-        Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol; gwaith teg; diogelwch a chydlyniant cymunedol; tlodi; a gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

-        Yn ogystal, gall y pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y materion trawsbynciol o fewn ei gylch gorchwyl, gan gynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): cydraddoldeb a hawliau dynol; a gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Cylch gorchwyl:Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): polisi newid hinsawdd; yr amgylchedd; ynni; cynllunio; trafnidiaeth; a chysylltedd.

Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cylch gorchwyl:

-        Archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y Gymraeg; diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; darlledu; chwaraeon; a chysylltiadau rhyngwladol.

-        Gall y Pwyllgor ymchwilio i unrhyw faes polisi o safbwynt y Gymraeg.


 

Pwyllgorau Arbenigol

Y Pwyllgor Cyllid

Cylch gorchwyl:

-        cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A, ac 19 y Senedd;

-        o dan Reol Sefydlog 19, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Senedd ynghylch defnyddio adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys craffu ar gyllidebau’r cyrff a ariennir yn uniongyrchol gan Gronfa Gyfunol Cymru;

-        o dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio llywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;

-        o dan Reol Sefydlog 18A, mae cyfrifoldebau’r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

-        gall y pwyllgor hefyd, fel rhan o'i gyfrifoldebau, ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau cyllidol i Gymru, a’r cynnydd wrth wneud hynny; a

-        gall y pwyllgor graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Senedd.

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Cylch gorchwyl:

-        Cyflawni'r swyddogaethau fel y'u nodir yn Rheolau Sefydlog 18.2 a 18.3 ac ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.

-        Gall y pwyllgor graffu ar unrhyw fater arall sy'n ymwneud â pheirianwaith llywodraethu, gan gynnwys ansawdd a safonau’r weinyddiaeth a ddarperir gan Wasanaeth Sifil Llywodraeth Gymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.


 

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cylch gorchwyl:

-        Cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21 a Rheol Sefydlog 26C.

-        Gall y Pwyllgor ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â deddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth.

-        Gall y Pwyllgor ystyried unrhyw fater sy'n ymwneud â datganoli, y cyfansoddiad (gan gynnwys dyfodol cyfansoddiadol Cymru), cyfiawnder, a materion allanol.

-        Mae hyn yn cynnwys y meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): newidiadau i'r setliad datganoli, cysylltiadau rhynglywodraethol, y rhaglen fframweithiau cyffredin ar draws y DU, marchnad fewnol y DU, cytundebau rhyngwladol, cysylltiadau rhyng-seneddol, a diwygio'r Senedd.

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

Cylch gorchwyl:

-        Cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 22.

Y Pwyllgor Deisebau

Cylch gorchwyl:Cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 23.